Hafan > Amdanom Ni
Amdanom Ni
Nôd Meithrinfa Dwylo Da yw darparu gwasanaeth gofal dydd o safon uchel. Rydym fel rhan o’r gwasanaeth hwn, lle mae modd, yn danfon a chasglu plant i ysgol leol i fynychu sesiynau Meithrin ac addysgiadol trwy drefniant sydd wedi ei gytuno arno rhwng y rhieni/gofalwyr â’r ysgol yn ddyddiol.
Gofal ar gyfer pwy? Darperir gofal dydd ar gyfer 24 o blant rhwng 3 mis a 5 oed
Mae’r holl o’n gweithgareddau yn cyd-fynd â gofynion Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer gofal mewn meithrinfeydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Trwy gydol y dydd mae’r plant yn cael brecwast, cinio a phwdin a byrbryd ganol y prynhawn ac mae hyn oll wedi eu cynnwys ym mhris y gofal.
Rydym yn cynnig deiet iach a chytbwys ac yn darparu ar gyfer deiet unigol pob plentyn. Mae ein bwydlenni yn dilyn canllawiau Boliau Bach sef arferion gorau ar gyfer gwella prydau sy’n cael eu darparu ar gyfer plant.
Rydym yn cynnig man addas i famau alw i fwydo o'r fron yn ystod ein sesiynau.
Mae’r corff wedi ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, o dan adain Llywodraeth Cymru a cheir arolwg rheolaidd o’r gwasanaeth.
Trefniadau agor a chau - Rydym ar agor rhwng dydd Llun a ddydd Gwener 0800-1800
