Hafan > Amdanom Ni > Gofal 30 Awr

Gofal 30 Awr


Beth yw'r cynnig?

Gall plant sy'n gymwys gael yr hawl i hyd at 20 awr o ofal plant sy'n cael ei gyllido gan y Llywodraeth yn ystod tymor yr ysgol, yn ychwanegol at y 10 awr sy'n cael ei ddarparu'n barod gan y Cyfnod Sylfaen.

Yn ystod y 9 wythnos o wyliau'r ysgol, gall rhieni dderbyn hyd at 30 awr o ofal plant.

Gall plant sy'n gymwys dderbyn y cynnig; o ddechrau’r tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd, tan y mis Medi yn dilyn eu pedwerydd pen-blwydd, pan fyddant yn cychwyn ar addysg llawn amser.

Gall rhieni ddewis unrhyw leoliad gofal plant cofrestredig sydd yn addas i’w hamgylchiadau personol a theuluol, boed yn y sir neu’r tu allan, trwy gytuno gyda’r darparwr a’r awdurdod lleol. Nid oes yn rhaid i’r gofal plant gael ei roi gan yr un darparwr â darpariaeth y Cyfnod Sylfaen.

clai ac offer ar fwrdd

Pwy sy’n gymwys?

I fod yn gymwys am ofal plant am ddim, rhaid i chi gwrdd â’r meini prawf cymhwyster isod:

  • Mae eich plentyn yn 3 neu 4 oed
  • Yr ydych yn byw yng Ngwynedd neu Môn
  • Yr ydych yn gweithio ac yn ennill yr hyn sy’n cyfateb i o leiaf 16 awr ar y cyflog byw cenedlaethol neu’r isafswm cyflog cenedlaethol; neu eich bod yn derbyn budd-daliadau gofal penodol

 Ewch ar wefan Cyngor Gwynedd am fwy o wybodaeth.