Hafan > Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd


Polisi Diogelwch Data a Gofynion Rheoli Diogelu Data 2018

Nôd y Feithrinfa yw sicrhau y cedwir gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’r staff, ymgeiswyr am swyddi, myfyrwyr ar leoliad gwaith, y rhieni/gwarchodwyr a’r plant yn unol â gofynion statudol cyfreithiol.

Mae Meithrinfa Dwylo Da yn ymrwymo i sicrhau prosesu diogel a theg o unrhyw ddata a dderbyniwn a byddwn yn cydymffurfio â Gofynion Rheoli Diogelu Data Cyffredinol 2018 (GDPR) ar bob achlysur.  Defnyddir y wybodaeth a gesglir yn ystod cyn-ofal a gofal pob plentyn i alluogi’r Feithrinfa i ddarparu gwasanaeth priodol ac nid at unrhyw ddiben arall.  

O bryd i’w gilydd, mae’n ofynnol arnom yn gyfreithiol i rannu gwybodaeth berthnasol gyda rhai o asiantaethau’r Llywodraeth megis Arolygiaeth Gofal Cymru, sef y corff sy’n cofrestru, yn arolygu ac yn gweithedu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal yng Nghymru a’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar brydiau pan fo angen ynghyd â phroffesiynolyddion meddygol mewn argyfyngau.

Os fyddwch chi am drafod unrhyw agwedd o’r uchod, mae croeso i chi fynegi hynny i aelod o staff.